Croeso i Gymdeithas Gwenynwyr Conwy

Croeso i wefan Cymdeithas Gwenynwyr Conwy.

Sefydlwyd CGC yn 1978, ac erbyn hyn mae gennym dros 150 o aelodau, a chwech ohonynt yn aelodau ers y cychwyn. Rydym wedi ein lleoli yn sir Conwy, un o ardaloedd hardd gogledd Cymru, a daw ein haelodau o bob rhan o’r sir a thu hwnt.

Rydym i gyd yn cael mwynhad o’n gwenyn. Mae gan nifer fawr o’n haelodau un neu ddwy cwch, ond mae gan ambell un gynifer â 60. Mae profiad gwenyna yn amrywio o ddechreuwyr i’r rhai sydd wedi bod yn gwenyna ers dros 60 mlynedd. Bu teulu un ohonom yn gwenyna’n ddi-dor ers canrif.

Ers 1990, bu’r gymdeithas yn trefnu’r Ffair Hadau a’r Ffair Fêl yng Nghonwy. Mae’r digwyddiadau hyn bellach yn boblogaidd iawn, ac yn llwyddiannus unwaith eto. Yn ystod y ffeiriau, rydym yn codi arian ar gyfer Bees for Development, elusen sy’n cynorthwyo pobl yn y trydydd byd i ddod yn hunan-gynhaliol drwy gadw gwenyn.

Yn 2004, buom yn rhan o sefydlu Gwledd Conwy, sydd bellach yn ddigwyddiad blynyddol poblogaidd iawn. Yn fwy diweddar, sefydlwyd Canolfan Gwenyna Genedlaethol i Gymru.

Mae ganddom dri nod arbennig:

Gwahoddir siaradwyr i gyfarfodydd misol yn ystod y gaeaf yng nghanolfan gymunedol Craig y Don. Yn yr haf, cynhelir dyddiau ar gyfer dechreuwyr a chyfarfodydd ymarferol yn ein gwenynfa yn Nhal y Cafn.

Trefnir cwrs wythnosol dros fisoedd y gaeaf mewn cydweithrediad â’r Canolfan Gwenyna Genedlaethol i Gymru, yng nghanolfan ymchwil Henfaes ger Bangor.

Mae CGC yn cydweithio â Chymdeithas Gwenynwyr Cymru (WBKA). Ewch i wefan WBKA am fwy o wybodaeth.

Gobeithio y gwnewch fwynhau ein gwefan, ac mae croeso i chi ymateb a rhoi eich sylwadau.